TRC’s rad Cymru Wales returns for second year to support next generation of diverse TV Talent

rad Cymru Wales is a paid eight-month traineeship and paid placement within a Welsh independent television production company designed to kick-start careers in television. Delivered by leading training organisation TRC, the traineeship is aimed at people under-represented in the TV industry: those either with a disability, from black, Asian or ethnic minority communities or from disadvantaged backgrounds. Rad Cymru Wales also supports opportunities for Welsh speakers from these under-represented communities / groups – both existing and new learners.”

Successful applicants will undertake a placement in one of the following roles within a selected production company: Researcher (Production or Development), Edit Assistant and Production Assistant. Training will also be provided for the host companies to develop and sustain equality, diversity and inclusion in the workplace.

The rad programme, established in Scotland for three successful editions, was piloted in Wales last year. In the first year of rad Cymru Wales, 4 out of 6 participating trainees secured work immediately following their traineeship. Production companies who have previously taken part in rad Cymru Wales include Boom Cymru, Little Door, Rondo Media, Vox Pictures, Wildflame and Little Bird.

Applications for the programme are now open, with a deadline of Thursday 20th July. Applications can be submitted either in English or Welsh. https://trcmedia.org/training/rad-cymru-wales-tv-traineeship/

The programme is funded by BBC, Channel 4, and Creative Wales.

Dawn Beresford, Director of Talent, Commissioning at BBC commented:

“The BBC is delighted to support the second edition of rad Cymru Wales. Identifying, training and supporting people from under-represented backgrounds is essential for increasing diverse representation on and off screen across the TV industry. The BBC is committed to building value for our audiences and we look forward to working with this new talent pool based in Wales to help us achieve this.”

Dawn Bowden, Deputy Minister for Arts, Sport and Tourism, said:

“The screen industry in Wales is thriving with further growth expected over the coming years. This is an exciting time for the industry with opportunities for people across Wales to access a variety of roles created around each production. Whether it’s costume design, hair and make-up, electricians, carpenters, camera operators and beyond, there are roles for everyone.

“I am delighted that Creative Wales is supporting this important initiative again in 2023, which will help to remove barriers and enable people from under-represented backgrounds to access paid placements, training and guidance.”

Sinead Rocks, Channel 4’s Managing Director, Nations and Regions, said:

“The TRC’s rad Cymru Wales initiative provides fantastic opportunities for people to launch their broadcast careers, particularly those who might not have considered a career in television. Channel 4’s 4Skills team is dedicated to building a more representative and inclusive workforce by offering thousands of training, development and learning opportunities and rad Cymru Wales is perfectly aligned with our ambitions by offering placements for talent to kickstart their careers with independent production companies based in Wales.”

Mae rad Cymru Wales y TRC yn dychwelyd am yr ail flwyddyn i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddoniau teledu amrywiol

Mae rad Cymru Wales yn gynllun hyfforddi wyth mis â thâl ac yn lleoliad cyflogedig o fewn cwmni cynhyrchu teledu annibynnol Cymreig sydd wedi’i gynllunio i roi hwb i yrfaoedd ym myd teledu. Mae’r cynllun, sy’n cael ei ddarparu gan y sefydliad hyfforddi blaenllaw TRC, wedi’i anelu at bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwydiant teledu: y rheini naill ai ag anabledd, o gymunedau du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig neu o gefndiroedd difreintiedig. Fel rhan o’r cynllun, mae rad Cymru Wales yn cefnogi cyfleoedd i bobl o’r cymunedau / grwpiau hyn sy’n siarad neu’n dysgu Cymraeg.’

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymgymryd â lleoliad yn un o’r rolau canlynol o fewn cwmni cynhyrchu: Ymchwilydd (Cynhyrchu neu Ddatblygu), Cynorthwyydd Golygu a Chynorthwyydd Cynhyrchu. Bydd hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu i’r cwmnïau i ddatblygu a chynnal cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.

Cafodd rhaglen rad, gafodd ei chynnal deirgwaith yn Alban yn hynod lwyddiannus, ei threialu yng Nghymru y llynedd. Ym mlwyddyn gyntaf rad Cymru Wales, sicrhaodd 4 o’r 6 hyfforddai a gymerodd ran waith yn syth ar ôl eu hyfforddeiaeth. Ymhlith y cwmnïau cynhyrchu sydd wedi cymryd rhan yn rad Cymru Wales mae Boom Cymru, Little Door, Rondo Media, Vox Pictures, Wilflame a Little Bird.

Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen bellach ar agor, a’r dyddiad cau yw dydd Iau, Gorffennaf 20fed. Gellir cyflwyno ceisiadau naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.  https://trcmedia.org/training/rad-cymru-wales-hyfforddeiaeth-teledu/

Ariennir y rhaglen gan y BBC, Channel 4, ac Creative Wales.

Dywedodd Dawn Beresford, Cyfarwyddwr Talent, Comisiynu yn y BBC:

“Mae’r BBC yn falch iawn o gefnogi ail rifyn rad Cymru Wales. Mae canfod, hyfforddi a chefnogi pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol yn hanfodol ar gyfer cynyddu cynrychiolaeth amrywiol ar y sgrin ac oddi ar y sgrin ar draws y diwydiant teledu. Mae’r BBC wedi ymrwymo i greu gwerth i’n cynulleidfaoedd ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r gronfa dalent newydd hon sydd wedi’i lleoli yng Nghymru i’n helpu i gyflawni hyn.”

Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Mae’r diwydiant sgrin yng Nghymru yn ffynnu a ry’n ni’n disgwyl gweld twf pellach dros y blynyddoedd i ddod. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r diwydiant gyda chyfleoedd i bobl ledled Cymru gael mynediad at amrywiaeth o rolau a gaiff eu creu o amgylch pob cynhyrchiad. Boed yn ddylunio gwisgoedd, gwallt a cholur, trydanwyr, seiri, gweithredwyr camera a thu hwnt, mae yna rolau i bawb.

“Rwy’n falch iawn bod Cymru Greadigol yn cefnogi’r fenter bwysig hon eto yn 2023, a fydd yn helpu i chwalu rhwystrau a galluogi pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i gael mynediad at leoliadau, hyfforddiant ac arweiniad â thâl.”

Dywedodd Sinead Rocks, Rheolwr Gyfarwyddwr Channel 4, Gwledydd a Rhanbarthau:

“Mae menter rad Cymru Wales y TRC yn darparu cyfleoedd gwych i bobl gychwyn eu gyrfaoedd darlledu, yn enwedig y rhai nad ydynt efallai wedi ystyried gyrfa ym myd teledu cyn hyn. Mae tîm 4Skills Channel 4 wedi ymrwymo i adeiladu gweithlu mwy cynrychioliadol a chynhwysol drwy gynnig miloedd o gyfleoedd hyfforddi, datblygu a dysgu ac mae rad Cymru Wales yn cyd-fynd yn berffaith â’n huchelgeisiau drwy gynnig lleoliadau i dalent i roi hwb i’w gyrfaoedd gyda chwmnïau cynhyrchu annibynnol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.”