rad Cymru Wales – hyfforddeiaeth teledu

Erioed wedi meddwl am weithio ym myd teledu?

Mae rad Cymru Wales yn gyfle gwych i unrhyw un hoffai weithio ym myd teledu ond sydd heb allu dod o hyd i ffordd i mewn i’r diwydiant neu sydd wedi wynebu rhwystr rhag cael mynediad iddo.

Boed y rhwystr hwnnw wedi codi oherwydd hil, anabledd neu gefndir economaidd – cafodd rad ei greu er mwyn chwalu’r rhwystrau hynny.

Mae hi’n hen bryd anghofio’r hen drefn ‘pwy ti’n ei nabod’ – rydyn ni eisiau dy adnabod di!

Yn fwy na hynny, mae ein cwmnïau cynhyrchu cynnal yn ymroddedig i dy gefnogi di trwy gydol y rhaglen. Bydd gennyt ti hefyd dîm TRC wrth law i dy gefnogi di trwy gydol y profiad – fe fyddwn ni yno i dy lywio di trwy’r cyfan.

Dyddiad cau

Ceisiadau bellach wedi cau

Dyddiad cau icon

Hyfforddeion

Tyrd i gwrdd â Hyfforddeion yr Cymraeg y llynedd.

Hyfforddeion icon

Eisiau clywed mwy am gyn-hyfforddeion rad yr Cymraeg yn 2022?

Felly beth yw rad?

rad Cymru Wales yn hyfforddeiaeth cyflogedig o fewn cwmni cynhyrchu teledu annibynnol Cymreig sy’n cynnwys hyfforddiant llawn trwy gydol y lleoliad.

Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at y rheiny sy’n cael eu tangynrychioli yn y diwydiant teledu: y rheiny naill ai ag anabledd, o gymunedau du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig neu sydd o gefndiroedd difreintiedig.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am bob rôl, gweler ein taflen wybodaeth ‘Rolau a Sgiliau Allweddol rad’ neu fel arall edrycha ar y proffil swydd perthnasol ar wefan ScreenSkills.

Bydd yr hyfforddeiaeth yn cael ei gynnal o fewn canllawiau COVID-19 y llywodraeth, gan fod TRC a’r cwmnïau cynhyrchu teledu cynnal wedi ymrwymo i gyflwyno’r rhaglen a chefnogi’r hyfforddeion. Noder efallai y bydd angen rhywfaint o weithio gartref.

Os wyt ti angen cymorth er mwyn cwblhau’r broses ymgeisio ry’n ni’n fwy na hapus i helpu, e-bostia projectmanager@trcmedia.org

Cofia ddarllen ein Canllawiau Ymgeisio a’n taflen wybodaeth ‘Rolau a Sgiliau Allweddol’ cyn cyflwyno dy gais.

Awydd sgwrs?

E-bostia projectmanager@trcmedia.org gydag unrhyw gwestiynau sydd gen ti ac fe fyddwn ni’n cysylltu â ti cyn gynted ag y gallwn ni. Hefyd os oes angen cymorth arnat ti i gwblhau’r broses ymgeisio, ry’n ni’n barod iawn i helpu, felly cysyllta â ni.

Cwrdd â'r Hyfforddeion

FAQs

Rhaglen hyfforddi lle bydd ymgeiswyr yn cael eu talu i weithio’n llawn amser yn ystod lleoliad gyda chwmni cynhyrchu teledu Cymraeg yw rad Cymru Wales. Bydd TRC hefyd wrth law drwy gydol y lleoliad i roi cymorth a hyfforddiant penodol er mwyn helpu i hybu gyrfa pob hyfforddai.

Mae’r rhaglen wedi ei hanelu at y rheiny sy’n cael eu tangynrychioli yn y diwydiant teledu: y rheiny sydd naill ai ag anabledd, o gymunedau du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig neu o gefndiroedd difreintiedig. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18, ond nid oes terfyn oedran uwch, sy’n golygu ei fod ar agor i’r rhai sy’n ystyried newid gyrfa neu ddychwelyd i’r gwaith.

Os wyt yn nodi dy fod o gefndir difreintiedig, meddylia am hyn wrth i ti ffurfio dy ateb: Mae’r BFI yn ystyried bod rhywun sydd wedi profi llai o gyfleoedd oherwydd lefel eu hincwm a/neu eu haddysg yn ddifreintiedig. Dylet esbonio pam yr ywyt ti o’r farn dy fod yn dod o gefndir economaidd-gymdeithasol difreintiedig (e.e., cartref rhiant sengl, gofal, addysg, statws ffoadur/lloches, tlodi, derbyn budd-daliadau/credydau treth, gofalwr).

I wneud cais am rad Cymru Wales, llenwa’r ffurflen yma.

Mae ceisiadau’n cau dydd Iau Gorffennaf 20fed, 5yh. Gellir cyflwyno ceisiadau naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Bydd y rôl yn gontract cyfnod penodol tan May 2024.

Mae’r cyflog yn seiliedig ar y Cyflog Byw Gwirioneddol sef £10.90 yr awr.

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn cael cytundeb gan eu cyflogwr a fydd yn amlinellu telerau ac amodau cyflogaeth.

Mae’r rôl yn cynnwys sesiynau hyfforddi misol sy’n gymysgedd o wyneb yn wyneb ac ar-lein. Bydd mynychu’r sesiynau hyn yn cael ei gynnwys yn dy gytundeb di (ni fydd angen i ti gymryd gwyliau di-dâl neu wyliau er mwyn eu mynychu nhw). Pwrpas yr hyfforddiant hwn yw helpu i gryfhau ac ehangu dy wybodaeth a’th sgiliau ym maes cynhyrchu teledu. Mae’r holl hyfforddiant wedi’i gynllunio’n benodol i dy helpu i ddod yn fwy hyderus a gwybodus mewn rolau allweddol dros y cyfnod hyfforddi.

Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli yn y diwydiant teledu: y rheiny naill ai ag anabledd, o gymunedau du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig neu o gefndiroedd difreintiedig gan fod rad wedi’i greu’n benodol i wneud diwydiant teledu Cymru yn fwy amrywiol. Os wyt ti’n nodi dy fod yn perthyn i un o’r cymunedau yma, yna rwyt ti’n gymwys i wneud cais am y rhaglen.

Anabledd yw os oes gen ti nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ‘sylweddol’ a ‘hirdymor’ ar dy allu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol, mae’r diffiniad yma wedi’i gymryd o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:   https://www.gov.uk/definition-of-disability-under-equality-act-2010

Gall ‘difreintiedig’ gynnwys y rhai sy’n wynebu risg uwch o dlodi, allgáu cymdeithasol, gwahaniaethu a thrais na’r boblogaeth gyffredinol. Mae’r BFI yn ystyried bod rhywun sydd wedi profi llai o gyfleoedd oherwydd lefel eu hincwm a/neu addysg yn ddifreintiedig. (h.y. cartref rhiant sengl, gofal, addysg, statws ffoadur/lloches, tlodi, incwm isel, derbyn budd-daliadau/credydau treth, gofalwr). Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cynnwys y categorïau canlynol yn eu dealltwriaeth o unigolion sydd wedi profi anfantais: pobl anabl, rhieni unigol, lleiafrifoedd ethnig, pobl dros 50 oed, y rhai â’r cymwysterau isaf a’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:    https://eige.europa.eu/rdc/thesaurus/terms/1083.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnat i fod yn gymwys ar gyfer rad Cymru Wales, mae gennym ddiddordeb yn dy botensial a dy angerdd di.

Na, ry’n ni’n chwilio’n benodol am bobl sydd heb weithio yn y diwydiant teledu. Y cyfan sydd ei angen yw i ti fod yn angerddol am deledu. Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd â brwdfrydedd a diddordeb amlwg mewn gweithio ym myd teledu. Ond os wyt ti eisoes wedi cael mwy na chwe mis o waith cyflogedig parhaus yn y diwydiant teledu, efallai y bydd gennyt ormod o gymwysterau ar gyfer y cynllun. Bod yn gam cyntaf i’r diwydiant teledu yw bwriad rad ac mae wedi’i gynllunio i helpu i roi hwb i dy yrfa ym myd teledu. Os nad wyt ti’n siŵr a wyt ti’n gymwys ai peidio, cysyllta â ni drwy e-bost ar projectmanager@trcmedia.org ac fe fyddwn ni’n hapus iawn i ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda ti.

Bwriad rad yw rhoi hwb i dy yrfa ym myd teledu felly os wyt ti eisoes wedi cael profiad sylweddol (mwy na chwe mis, wedi’i dalu’n llawn) yna efallai na fydd rad yn addas i ti. Os nad wyt ti’n siŵr a wyt ti’n gymwys, cysyllta â ni trwy e-bost ar projectmanager@trcmedia.org ac fe fyddwn ni’n fwy na hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda ti.

Galli, mae’n bosibl dy fod yn ailymuno â’r gweithlu ar ôl amser i ffwrdd, neu efallai dy fod wedi cael cyfnod o ddiweithdra, neu’n methu â chael cychwyn ar y pwnc y gwnest ei astudio ar ôl ysgol, coleg neu brifysgol. Os wyt ti’n byw yn y DU yn barhaol a bod gen ti’r hawl i weithio yma, galli wneud cais.

Alli di ddim bod mewn addysg amser llawn pan fydd y rôl yn dechrau.

Na. Rhaid i ti fod ar gael i barhau i weithio’n llawn amser yn ystod cyfnod yr hyfforddeiaeth tan fis Mai 2024. Os bydd dy gais yn llwyddiannus a’n bod yn darganfod wedyn dy fod yn bwriadu bod mewn addysg amser llawn, fe fyddwn ni’n dirymu dy gynnig.

Na fydd. Mae’r rhaglen rad yn ymwneud â dod o hyd i bobl dalentog sydd eisiau gweithio y tu ôl i’r llenni, gan helpu i ddatblygu rhaglenni teledu. Nid yw’n ymwneud â lansio gyrfa gyflwyno neu actio. Paid â gwneud cais os mai dyma dy brif nod di.

Os oes gen ti ddiddordeb mewn gwneud ymchwil ar gyfer cwmnïau cynhyrchu a dy fod ti’n hapus i weithio ar brosiectau pobl eraill gyntaf, yna galli wneud cais. Os byddai’n well gen ti weithio ar dy sgriptiau dy hun, yna dyw rad ddim yn iawn i ti.

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18, ond nid oes terfyn oedran uchaf, sy’n golygu ei fod ar agor i’r rhai sy’n ystyried newid gyrfa neu ddychwelyd i’r gwaith. Galli wneud cais i rad os wyt ti’n 17 ond RHAID dy fod wedi cael dy 18fed pen-blwydd erbyn dechrau’r rhaglen.

Galli, fe alli di wneud cais cyn belled â dy fod yn byw yn y DU yn barhaol a bod gen ti’r hawl i weithio yma.

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw yng Nghymru ond fe all unrhyw un sy’n byw yn y DU (y tu allan i Lundain) wneud cais a bydd yn rhaid i ti brofi dy fod yn gallu symud i Gymru erbyn dechrau’r rhaglen er mwyn cymryd rhan yn rad. Nid oes unrhyw daliad costau adleoli felly gwna gais dim ond os wyt ti’n hapus efo hynny ac yn gallu symud i Gymru cyn i’r rôl ddechrau.

Nid yw’n ofynnol siarad Cymraeg, ond fe hoffem ni annog ymgeiswyr sy’n gallu cyfathrebu yn y Gymraeg ac sy’n dangos parodrwydd i ddysgu Cymraeg i ymgeisio.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnat er mwyn cwblhau dy ffurflen gais, byddwn yn cynnig cyfarfodydd un-i-un lle bydd aelod o’n tîm yn dy helpu i ddeall a llywio’r broses ymgeisio.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ac yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein gyda’r cwmni cynhyrchu teledu sy’n cynnig y lleoliad.

Os oes gen ti unrhyw ofynion arbennig am gyfweliad, rho wybod i ni ac fe fyddwn yn gwneud trefniadau addas ar dy gyfer.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau, cysyllta â TRC.

rad Cymru Wales yn cael ei ariannu gan: