rad Cymru Wales -Meet the Panellists | Cwrdd â’r panelwyr

We are hosting an online info event for our upcoming rad Cymru Wales programme!

rad is a paid eight-month traineeship within a Welsh independent television production company which includes full
training throughout the placement.

During the event we’ll be chatting all things rad 2023 – what you need to know, top tips for your application
and what to expect if you are successful.

We will be joined by some special guests to inspire you with their
TV career journeys:

  • Annie Holroyd – Development Assistant, rad 2022 graduate
  • Red Wade – Production Assistant, rad 2022 graduate
  • Iqbal Khokhar – Edit Assistant, rad 2021 graduate

Register your interest via bit.ly/3PRs1KX
to be notified about this event.

Ry’n ni’n cynnal digwyddiad gwybodaeth ar-lein ar gyfer ein rhaglen
rad Cymru Wales
!

Hyfforddeiaeth wyth mis â thâl o fewn cwmni cynhyrchu teledu annibynnol Cymreig yw rad ac mae’n cynnwys hyfforddiant
llawn trwy gydol y lleoliad.

Byddwn yn sgwrsio am bob agwedd o rad 2023 yn ystod y digwyddiad – yr hyn sydd angen i chi ei wybod, awgrymiadau da
ar gyfer eich cais
a beth i’w ddisgwyl os byddwch yn llwyddiannus.

Bydd gwesteion arbennig yn ymuno â ni
i’ch ysbrydoli gyda’r llwybrau maent wedi eu cymryd o fewn eu gyrfaoedd teledu:

  • Annie Holroyd – Cynorthwy-ydd Datblygu, graddedig rad 2022
  • Red Wade – Cynorthwyydd Cynhyrchu, graddedig rad 2022
  • Iqbal Khokhar – Cynorthwyydd
    Golygu, graddedig rad 2021

Cofrestrwch eich diddordeb trwy bit.ly/3PRs1KX i gael gwybod am y digwyddiad hwn.

Annie Holroyd headshot

Annie Holroyd

Development Assistant, rad Cymru Wales 2022

Before the rad programme, Annie graduated from Bangor University where she studied Film, Performance,
Journalism and Creative Writing. As a trainee, she started at Little Door Productions as a
Production Assistant but, craving more creative involvement, moved across to the development team a
few months later. Now a Development Assistant, Annie assists the team on a variety of projects,
working across research and submissions as well as diary and meeting management.

Annie has experience in several student and short films as a writer, editor, production assistant,
actor and casting associate, and is a current member of It’s My Shout’s 2023 Casting Associates
pool. Most recently, Annie got her first major on-set experience as a runner for several days on Red
Seam and Little Door’s co-production of The Way, a Port Talbot drama directed by Michael
Sheen.

Cynorthwy-ydd Datblygu, rad Cymru Wales 2022

Cyn y rhaglen rad, graddiodd Annie o Brifysgol Bangor lle astudiodd Ffilm, Perfformio,
Newyddiaduraeth ac Ysgrifennu Creadigol. Fel hyfforddai, dechreuodd yn Little Door Productions fel
Cynorthwy-ydd Cynhyrchu ond, yn ysu am fwy o brofiad creadigol, symudodd i’r tîm datblygu ychydig
fisoedd yn ddiweddarach. Bellach yn Gynorthwyydd Datblygu, mae Annie yn cynorthwyo’r tîm ar
amrywiaeth o brosiectau, gan weithio ar ymchwil a chyflwyniadau yn ogystal â rheoli dyddiaduron a
chyfarfodydd.

Mae gan Annie brofiad mewn sawl ffilm fyfyriwr a ffilm fer fel awdur, golygydd, cynorthwyydd
cynhyrchu, actor a chyswllt castio, ac mae’n aelod cyfredol o Casting Associates 2023 It’s My Shout.
Yn fwyaf diweddar, cafodd Annie ei phrofiad ar-set mawr cyntaf fel rhedwr am sawl diwrnod ar
gyd-gynhyrchiad Red Seam a Little Door o’r enw The Way, drama wedi ei lleoli ym Mhort Talbot a
gyfarwyddwyd gan Michael Sheen.

Red Wade headshot

Red Wade

Production Assistant , rad Cymru Wales 2022

Red started out as a hair and makeup trainee in HETV, however they wanted to change career paths to
the production office, but they didn’t know how. RAD helped them achieve their first Production
Assistant credits in TV with Little Bird Films, along with department specific training. Red is now
on the path to stepping up in their career while they are learning on a Production Management
Bootcamp with Solihull College and University Centre.

Outside of work, Red is a Producer for fiction short films, having one of their most recent projects
funded by WWF Cymru. They trained with the BFI Film Academy, NFTS Craft Skills course, BFI Network
Creative Producers Lab, and they are currently a BAFTA Mentee.

Cynorthwyydd Cynhyrchu, rad Cymru Wales 2022

Dechreuodd Red fel hyfforddai gwallt a cholur gyda HETV, ond roedden nhw eisiau newid llwybrau gyrfa
i’r swyddfa gynhyrchu. Doedden nhw ddim yn gwybod sut felly  fe helpodd rad nhw i gyflawni eu
credydau Cynorthwyydd Cynhyrchu cyntaf mewn Teledu gyda Little Bird Films, ynghyd â hyfforddiant
penodol i adrannau. Mae Red bellach ar y llwybr i gamu i fyny yn eu gyrfa tra maent yn dysgu ar
Bwtcamp Rheoli Cynhyrchu gyda Choleg Solihull a Chanolfan y Brifysgol.

Y tu allan i’r gwaith, mae Red yn Gynhyrchydd ffilmiau byr ffuglen, gydag un o’u prosiectau
diweddaraf wedi’i ariannu gan WWF Cymru. Fe wnaethant hyfforddi gydag Academi Ffilm y BFI, cwrs
Sgiliau Crefft NFTS, Labordy Cynhyrchwyr Creadigol Rhwydwaith BFI, ac maent ar hyn o bryd yn
fentoredig gan BAFTA.

Iqbal Khokhar headshot

Iqbal Khokhar

Edit Assistant, rad Scotland 2021

Iqbal joined the industry as an Edit Assistant through the RAD scheme and has rapidly progressed to
Assistant Editor. He has gained broadcast and SVODs credits for Amazon Prime, BBC, CH4, CH5, Sky,
Discovery+ and Netflix. His most recent credits are as an additional editor working alongside
Charlie Russell for Curious Films on projects for the BBC and CH4. He has worked for several indies
in Glasgow, including Firecrest and Tern TV, and was recently selected to be a part of the Grierson
DocLab Editing programme supported by Netflix.

Cynorthwy-ydd Golygu, rad Scotland 2021

Ymunodd Iqbal â’r diwydiant fel Cynorthwyydd Golygu trwy’r cynllun rad ac mae wedi symud ymlaen yn
gyflym i fod yn Olygydd Cynorthwyol. Mae wedi ennill credydau darlledu a SVOD ar gyfer Amazon Prime,
BBC, CH4, CH5, Sky, Discovery + a Netflix. Mae ei gredydau diweddaraf yn cynnwys fel golygydd
ychwanegol yn gweithio ochr yn ochr â Charlie Russell ar gyfer Curious Films ar brosiectau i’r BBC a
CH4. Mae wedi gweithio i sawl cwmni annibynnol yn Glasgow gan gynnwys Firecrest a Tern TV, ac yn
ddiweddar cafodd ei ddewis i fod yn rhan o raglen olygu Grierson DocLab, a gefnogir gan Netflix.