TRC, in partnership with BBC, Channel 4, Creative Wales and S4C, is set to launch a new training programme programme in Wales that aims to tackle the lack of diversity in broadcasting.
rad Cymru Wales is a paid eight-month traineeship, for eight trainees, within Welsh independent television production companies, which includes full training from TRC throughout the placement. The traineeship is aimed at people under-represented in the TV industry: those either with a disability, from black, Asian or ethnic minority communities or from disadvantaged backgrounds.
In addition to supporting the trainees, support for the independent production companies will also be provided to develop and sustain equality, diversity and inclusion in the workplace including making any reasonable workplace adjustments for candidates with disabilities.
TRC has successfully delivered rad in Scotland in 2019 and 2021, training a total of 20 new entrants. Of these, 18 people are still actively working in the industry.
Dawn Bowden, Deputy Minister for Arts and Sports said:
“The screen industry in Wales is thriving, and is busier than ever, with many productions currently underway, and much more growth expected over the coming years. This means there are opportunities for people across Wales to access a variety of roles created around each production, from costume design to hair and make-up, electricians, carpenters, camera operators and beyond.
“This new initiative will help to remove barriers and enable people from under-represented backgrounds to access paid placements, training and guidance.”
Fiona Campbell, Controller, BBC3 said:
“Supporting the next generation of talent who want to break into the TV industry is something the BBC is really passionate about and we’re proud to support rad Wales with this progamme. Increasing representation increases relevance and we hope this important addition to our training offer across the UK brings more people from a range of backgrounds into the TV industry in Wales.”
Sinead Rocks, Managing Director of Nations and Regions, Channel 4 commented:
“Channel 4 is committed to building a more inclusive workforce across the TV Industry through our 4Skills programme, and our partnership with TRC is a vital part of this. Following on from the success of rad in Scotland, we are thrilled to be working with the independent production companies in Wales, providing opportunities for Welsh talent to kickstart their careers in television.”
Siân Doyle, CEO of S4C said:
“S4C is excited to support the RAD Cymru Wales programme and work alongside partners to support the urgent need to open doors and pathways to help develop creative talent in the TV sector.
Supporting paid training for individuals from backgrounds that are currently under-represented in the sector is a small but vital step to ensure progress in fair representation in our industry.
The RAD Cymru Wales programme aligns with S4C’s Diversity, Inclusion and Equality Strategy, as well as its Training Strategy, and we’re especially excited to support a Welsh project in partnership with partners from across the UK.”
Mae TRC, mewn partneriaeth â’r BBC, Channel 4, Cymru Greadigol ac S4C, ar fin lansio rhaglen hyfforddiant newydd yng Nghymru sy’n ceisio mynd i’r afael â’r diffyg amrywiaeth ym myd darlledu.
Mae rad Cymru Wales yn hyfforddeiaeth wyth mis â thâl ar gyfer wyth hyfforddai, mewn cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, a fydd yn cynnwys hyfforddiant llawn gan TRC drwy gydol y lleoliad. Mae’r hyfforddeiaeth wedi’i hanelu at bobl sydd wedi’u tangynrychioli yn y diwydiant teledu: y rhai sydd naill ai ag anabledd, o gymunedau du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig neu o gefndiroedd difreintiedig.
Yn ogystal â chefnogi’r hyfforddeion, darperir cymorth i’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol hefyd er mwyn datblygu a chynnal cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, gan gynnwys gwneud unrhyw addasiadau rhesymol yn y gweithle ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau.
Mae TRC wedi darparu rad yn llwyddiannus yn yr Alban yn 2019 a 2021, gan hyfforddi cyfanswm o 20 o newydd-ddyfodiaid. O’r rhain, mae 18 o bobl yn dal i fod wrthi’n gweithio yn y diwydiant.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
“Mae’r diwydiant sgrin yng Nghymru yn ffynnu, ac yn brysurach nag erioed, mae yna lawer o gynyrchiadau ar y gweill ar hyn o bryd, a llawer mwy o dwf i’w ddisgwyl dros y blynyddoedd i ddod. Mae hyn yn golygu bod yna gyfleoedd i bobl ledled Cymru gael mynediad at amrywiaeth o rolau a grëir o amgylch pob cynhyrchiad, o ddylunio gwisgoedd i wallt a cholur, trydanwyr, seiri, gweithredwyr camerâu, a thu hwnt.
“Bydd y fenter newydd hon yn helpu i gael gwared ar rwystrau a galluogi pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i gael mynediad at leoliadau gwaith am dâl, hyfforddiant ac arweiniad.”
Dywedodd Fiona Campbell, Rheolydd, BBC3:
“Mae cefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent sy’n dymuno torri i mewn i’r diwydiant teledu yn rhywbeth y mae’r BBC yn teimlo’n wirioneddol angerddol yn ei gylch, ac rydym yn falch o gefnogi rad Cymru Wales gyda’r rhaglen hon. Mae cynyddu cynrychiolaeth yn cynyddu perthnasedd a gobeithiwn y bydd yr ychwanegiad pwysig hwn at ein harlwy hyfforddi ledled y DU yn dod â mwy o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd i’r diwydiant teledu yng Nghymru.”
Dywedodd Sinead Rocks, Rheolwr Gyfarwyddwr y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau, Channel 4:
“Mae Channel 4 wedi ymrwymo i adeiladu gweithlu mwy cynhwysol ar draws y Diwydiant Teledu trwy ein rhaglen 4Skills, ac mae ein partneriaeth gyda TRC yn rhan hanfodol o hyn. Yn dilyn ymlaen o lwyddiant rad yn yr Alban, rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru, a darparu cyfleoedd i ddoniau o Gymru roi hwb i’w gyrfaoedd ym myd teledu.”
Dywedodd Siân Doyle, Prif Swyddog Gweithredol S4C:
“Mae S4C yn falch iawn o gael cefnogi rhaglen RAD Cymru Wales a gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i gefnogi’r angen dybryd i agor drysau a llwybrau i helpu i ddatblygu talent greadigol yn y sector teledu.
Mae cefnogi hyfforddiant am dâl i unigolion o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector ar hyn o bryd yn gam bach ond hanfodol i sicrhau cynnydd mewn cynrychiolaeth deg yn ein diwydiant.
Mae rhaglen RAD Cymru Wales yn cyd-fynd â Strategaeth Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chydraddoldeb S4C, yn ogystal â’i Strategaeth Hyfforddiant, ac rydym yn arbennig o falch o gael cyfle i gefnogi prosiect yng Nghymru mewn partneriaeth â phartneriaid o bob rhan o’r DU.”