rad Cymru Wales: Meet the Trainees | rad Cymru Wales: Cwrdd â'r Hyfforddeion

rad Cymru Wales is a traineeship for people who would love to work in television but haven't been able to find a way in or have faced a barrier to entry. Trainees will take part in an eight-month traineeship within a Welsh independent television production company and receive full training throughout the placement.
Meet the fantastic new cohort of rad Cymru Wales trainees!
Hyfforddeiaeth ar gyfer pobl a fyddai wrth eu bodd yn gweithio ym myd teledu ond nad ydynt wedi gallu dod o hyd i ffordd i mewn neu sydd wedi wynebu rhwystr rhag mynediad yw rad Cymru Wales. Bydd hyfforddeion yn cymryd rhan mewn hyfforddeiaeth wyth mis o fewn cwmni cynhyrchu teledu annibynnol Cymreig ac yn derbyn hyfforddiant llawn trwy gydol y lleoliad.
Dewch i gwrdd â'r criw newydd gwych o hyfforddeion rad Cymru Wales!

Andrei–Cristian Herea - Production Assistant, Boom Cymru
Originally from Romania, Andrei made Wales his adoptive home after studying Film and Video at the University of South Wales and graduating in 2015. With an educational background rooted in Humanities, he approaches his work from the perspective and knowledge of a wide range of arts and social sciences. In the past few years he has worked as a videographer and volunteered for mostly non-profit organisations such as Recovery Cymru. Passionate for capturing moments as they happen and a keen observer of society, he aims to have his projects positively impact his surroundings and strengthen his connection to the community.
Yn wreiddiol o Rwmania, daeth Cymru yn gartref mabwysiadol iddo wedi iddo astudio Ffilm a Fideo ym Mhrifysgol De Cymru a graddio yn 2015. Gyda chefndir addysgol sydd wedi’i wreiddio yn y Dyniaethau, mae’n ymdrin â’i waith o safbwynt a gwybodaeth am amrywiaeth eang o gelfyddydau a gwyddorau cymdeithasol. Yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi gweithio fel fideograffydd ac wedi gwirfoddoli mewn sefydliadau di-elw yn bennaf, fel Recovery Cymru. Yn angerddol am ddal eiliadau wrth iddynt ddigwydd ac yn sylwedydd brwd o gymdeithas, ei nod yw cael ei brosiectau i gael effaith gadarnhaol ar ei amgylchoedd a chryfhau ei gysylltiad â'r gymuned.

Annie Holroyd - Production Assistant, Little Door
Obsessed with TV and film, Annie has always had dreams of working in the industry and has long been pursuing her interests in media, performance and journalism, graduating from Bangor University in 2020 with a degree in Creative Studies and taking on roles such as writer, editor, production assistant and actor in a number of short student films. Hailing from South Wales, Annie’s interests lie in the power of stories to connect people, to unite, inspire, and create change in society, with a particular focus on local stories, real people, and Welsh talent. Annie has been working for the NHS for the past year and is keen to make a move to the creative industries and start working towards a future in TV and film.
Mae Annie wastad wedi breuddwydio am weithio yn y diwydiant ffilm a theledu ac mae hi wedi bod yn dilyn ei diddordebau yn y cyfryngau, perfformio a newyddiaduraeth ers tro, gan raddio o Brifysgol Bangor yn 2020 gyda gradd mewn Astudiaethau Creadigol a chymryd rolau fel awdur, golygydd, cynorthwyydd cynhyrchu ac actor mewn nifer o ffilmiau byr myfyrwyr. Yn hanu o dde Cymru, mae diddordebau Annie yng ngrym straeon i gysylltu pobl, i uno, i ysbrydoli ac i greu newid mewn cymdeithas, gyda ffocws arbennig ar straeon lleol, pobl go iawn a thalent Gymreig. Mae Annie wedi bod yn gweithio i’r GIG am y flwyddyn ddiwethaf ac mae hi’n awyddus i symud i’r diwydiannau creadigol a dechrau gweithio tuag at ddyfodol ym myd teledu a ffilm.

Dominic Francis - Edit Assistant, Rondo Media
Dominic has lived in Cardiff his whole life, born and bred in the city. He has been involved in a few different endeavours in the past few years ranging from making music to presenting online shows. Although he has been in front of the camera, his passion has always been behind it. With a love for editing and technology, Dominic wanted to pave his way in the world of production and post-production.
Mae Dominic wedi byw yng Nghaerdydd ar hyd ei oes, wedi ei eni a'i fagu yn y ddinas. Mae wedi bod yn ymwneud ag ychydig o wahanol brosiectau dros y blynyddoedd diwethaf, yn amrywio o greu cerddoriaeth i gyflwyno sioeau ar-lein. Er iddo fod o flaen y camera, mae ei angerdd bob amser wedi gorwedd y tu ôl iddo. Gyda chariad at olygu a thechnoleg, roedd Dominic am baratoi ei lwybr ym myd cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.

Harriet Dooner - Production Assistant, Vox Pictures
Harriet moved to Cardiff in 2019 to study media production at the University of South Wales. Whilst studying she developed a love for scripted drama and comedy and began writing and directing her own material. Harriet has been using her skills in production to make many short fiction films in drama and comedy and continues to write as a hobby. During her final year of study, Harriet was lucky enough to be a part of the BBC Radio 4’s Alexei Sayle's Strangers on a Train as a researcher. Harriet worked on the series whilst completing her dissertation and her university course.
Symudodd Harriet i Gaerdydd yn 2019 i astudio Cynhyrchu Cyfryngol ym Mhrifysgol De Cymru. Wrth astudio, datblygodd gariad at ddrama a chomedi wedi’i sgriptio a dechreuodd ysgrifennu a chyfarwyddo ei deunydd ei hun. Mae Harriet wedi bod yn defnyddio ei sgiliau cynhyrchu i wneud llawer o ffilmiau ffuglen byr mewn drama a chomedi ac mae'n parhau i ysgrifennu fel hobi. Yn ystod ei blwyddyn olaf o astudio, bu Harriet yn ddigon ffodus i fod yn rhan o Strangers on a Train gan Alexei Sayle ar BBC Radio 4 fel ymchwilydd. Bu Harriet yn gweithio ar y gyfres tra'n cwblhau ei thraethawd hir a'i chwrs prifysgol.

Isabel Passalacqua - Production Assistant, Wildflame
Isabel moved to Cardiff in 2018 to study Theatre and Drama at the University of South Wales. She has a particular interest in the use of social media and short form content creation. Her previous experience included interning for a local news company where she worked as a junior video journalist and research assistant.
Symudodd Isabel i Gaerdydd yn 2018 i astudio Theatr a Drama ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol a chreu cynnwys ffurf fer. Roedd ei phrofiad blaenorol yn cynnwys interniaeth i gwmni newyddion lleol lle bu’n gweithio fel newyddiadurwr fideo iau a chynorthwyydd ymchwil.

Red Wade - Production Assistant, Little Bird
Red moved to Wales in early 2021 to work on the Disney production Willow. They only intended to stay for the duration of the production but they fell in love with Wales and hope to stay for a good while. Red’s goal is to be a Producer for high-end content one day. Recently, Red has received a £1,000 grant from Chapter Arts Cardiff and BFI Film Academy to create a micro-short film. Red feels that their experience from making their film and working on the rad Cymru Wales scheme will help them eventually achieve their goal of becoming a Producer.
Symudodd Red i Gymru ar ddechrau 2021 i weithio ar gynhyrchiad Disney, Willow, gan fwriadu aros am gyfnod y cynhyrchiad yn unig ond fe syrthiodd mewn cariad â Chymru a’r gobaith bellach yw aros am dipyn. Nod Red yw bod yn Gynhyrchydd un diwrnod. Fe dderbyniodd Red grant o £1,000 gan Chapter, Caerdydd ac Academi Ffilm y BFI yn ddiweddar er mwyn creu ffilm fer ficro. Mae Red yn teimlo y bydd y profiad o wneud ffilm a gweithio ar gynllun rad Cymru Wales yn ei helpu yn y pen draw i gyrraedd ei nod o ddod yn Gynhyrchydd.